‘Bûm yn mynd i’r lleuad ganwaith mewn roced fain â’i henw “Dychymyg”…’ : Ail ran o restr ‘Top 10’ o lyfrau ffug-wydd Cymraeg gan Miriam Elin Jones.

Dyma ail ran y ‘Top 10’ a ddechreuais yr wythnos diwethaf (rhag ofn i chi ei fethu, gwasgwch yn y fan hon…) gan fy mod yn gwybod y byddwch yn crefu am fwy erbyn hyn!


5. Sibrydion o Andromeda – Emyr Wyn Roberts (2007)

Synnais ar yr ochr orau i mi fwynhau Sibrydion o Andromeda. Wedi ei ysgrifennu gan y comedïwr Emyr Wyn Roberts, roeddwn yn disgwyl rhywbeth tafod mewn boch a oedd yn trio’n rhy galed i fod yn ddoniol – yn enwedig gyda brawddeg agoriadol megis (nid ar gyfer y rhai gwan galon!) “Coc y gath, ma hi’n twllu!”. Fodd bynnag, yn y nofel hon, cyflwynir Dafydd, gwyliwr sêr amatur, sy’n dod ar draws arallfydwr o’r enw Hellgid, sydd wedi’i glwyfo. Mae’r arallfydwr unigrwy yn rhannu cyfrinachau a gwybodaeth pwysig iawn gyda Daf, a megis dechrau mae’r holl helynt eto! Dysgwn nad yw’r berthynas rhwng rai o blanedau pell y bydysawd yn rhyw gyfeillgar iawn. Mae yna ryfel ar y gorwel, a’r cwestiwn mawr yw, beth fydd dyfodol y Ddaear yn sgil hyn?

Heb ddatgelu gormod am y plot, dyma nofel fyrlymus, a dilynwn hynt a helynt ein harwr annisgwyl gan obeithio am ddiweddglo hapus, er ei fwyn e! Mae’r nofel hon yn gweddu i’r dim i rywun sy’n ofn mentro i fyd Hard-SF, gyda’i hiwmor ac arddull ysgafn.


4. Y Dŵr – Lloyd Jones (2009)

O’r cychwyn cyntaf, cydiodd nofel ôl-apocolyptaidd Lloyd Jones ynof, a gyrru sawl ias i lawr fy nghefn wrth i mi ei darllen. Mae teulu Dolfrwynog yn rhygnu byw o dan amgylchiadau anodd, yng nghanol nunlle, heb yr un syniad beth sy’n digwydd i weddill y byd. Gwelwn Elin, y fam sydd wedi colli’r awydd i fyw, Jac, ei chariad sy’n trio’i orau glas i gadw’r teulu i fynd, Wil ei brawd yn dioddef, heb foddion na meddyg i’w wella, Huw’r mab sy’n ymdebygu i anifail gwyllt, a Mari, sydd wedi mopio’n lân gyda Nico, llanc o Wlad Pwyl sydd wedi dod i darfu ar fywyd y teulu. Yn wir, cyflwynir sawl cwestiwn diddorol. Sut fyddwn ni, trigolion y byd materol sydd ohoni, yn goroesi o dan y fath amgylchiadau?

Yn bur ddiweddar, mae Y Lolfa newydd gyhoeddi cyfieithiad ohoni – Water.


3. Blodyn Tatws – Eirug Wyn (1998)photo(1)

Wrth draddodi beirniadaeth Blodyn Tatws yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn 1998, noda Harri Pritchard Jones, ‘…dylai rhywun fod wedi rhybuddio Wing Wong [ffugenw Eirug Wyn] fod y beirniad hwn, o leiaf, bron yn alergaidd i ffuglen wyddonol.’ Fel yr ydym wedi gweld wrth drafod Y Clychau, nad efe yw’r unig feirniaid Eisteddfodol sy’n teimlo felly. Dawn dweud di-flewyn ar dafod Eirug Wyn a hudodd y triawd yn 1998, a diolch byth am hynny.

Dilyna’r stori hanes Wang-Ho, etifedd cwmni cyfrifiadurol llewyrchus ei dad a’i dad-cu, mewn Cymru rydd yn y flwyddyn 2049. Yn y Gymru annibynnol hon, mae Dafydd Iwan yn gant oed ac yn dal i ganu, ac mae gan y wlad ei senedd ym Machynlleth. Mae Wang-Ho, er bod y busnes teuluol yn mynd o nerth i nerth dan ei law ef, mae’n gymeriad unig, gyda’i gyfoeth a’i swildod yn ei ynysu rhag gweddill y gymdeithas. Dim ond ei nain, Cedora Hughes, a NESTA, cyfrifiadur hollwybodus cwmni Wing Ha Weng-Ho Wang-Ho Electronic Co. sydd ganddo’n gwmni, felly ai ati i greu ‘Blodyn Tatws, merch o ficro chips. Wrth gwrs, mae’r nofel yn rhemp o adleisiau o chwedl Blodeuwedd, ond mae’n wedd newydd, anghyffredin a difyr iawn ar hen chwedl.


2. Cafflogion – R. Gerallt Jones (1979)

Portreada gyfrol y Fedal Ryddiaith yn 1979 dyfodol dystopaidd arall, lle rhagwelir trigolion Cymru yn gorfod mudo i ddinasoedd mawrion dan orchymyn llywodraeth dotalitaraidd yn 90au’r ugeinfed ganrif. Yn y nofel hon, gwelwn griw o ddeuddeg wedi dianc o grafangau’r dinasoedd, yn ôl i gefn gwlad i greu eu cymdeithas eu hunain, Cafflogion, sydd wedi ei henwi ar ôl yn o dri chwmwd cantref Llŷn.

Mae Garth, cynhyrchydd teledu, yn gadael y Ddinas i ffilmio’r gymuned hon, a thrwy ei lygaid ef, a dau gymeriad arall o Cafflogion, gŵr a gwraig o’r enw Alun a Mair, dysgwn fwy am y gymuned. Mae hi’n nofel am obaith ac am dorri’n rhydd ac mae iwtopia R. Gerallt Jones yn beirniadu nifer o bethau am fyd y nofelydd ar y pryd, gan gynnwys crefydd ac yn bennaf, y system addysg. Fodd bynnag, wrth i Garth ddychwelyd i’r Ddinas gyda’i ffilm, beth fydd tynged Cafflogion, wedi i’r llywodraeth ddod i wybod am ei fodolaeth?


 

y dydd olaf1. Y Dydd Olaf – Owain Owain (1976)

‘Ni welwyd dim byd tebyg i’r llyfr hwn yn ein hiaith o’r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhawn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg.’

I ddweud y gwir, mae rhagymadrodd Pennar Davies i’r nofel hon yn dweud y cwbl. Dyma nofel wreiddiol yn y Gymraeg, a nofel fydd yn eich syfrdanu. Gwelwn ddarnau o stori Marc ar ffurf pytiau o lythyron a dyddiaduron, wedi eu hachub o archif ddirgel. Yn nyfodol tywyll Marc, treulia diwrnodau olaf y mileniwm mewn Cartref Machlud yn cael ei gyflyru gan ryw ‘Nhw’ dirgel, gan edrych yn ôl ar ei fywyd cyn ffarwelio am y tro olaf…

Mae’n stori am gariad ac am frad ac am berygl peiriannau a’r bywyd modern. Gwelwn ddylanwad Brave New World a 1984 (wedi eu cyfieithu i ‘Bywyd-Newydd-Braf’ a ‘Mil-Naw-Wyth-Pedwar’) yn eglur iawn, wrth iddynt gael eu trafod fel testunau gwaharddedig. Ar adegau, mae ei harddull pytiog, sy’n neidio mewn amser yn gwneud hi’n anodd dilyn y stori, (Serch hynny, mae’n haws o lawer i’w darllen nag Un Nos Ola Leuad…) fodd bynnag, rhowch ail gyfle i’r nofel hon, clasur Cymraeg, heb os.


Ydw i wedi hepgor ambell i nofel fyddai ar frig eich restr ‘Top Ten’ chi? Cofiwch adael i IAS wybod!

Miriam Elin Jones

@miriamelin23

 

 

5 comments

  1. Diolch yn fawr am y rhestr hon. Roedd y rhan fwya ohonyn nhw yn hollol anhysbys i mi. Ond ble mae deunydd fel hyn ar gael?

  2. […] gwell i droi felly, na rhestrau Gwyddonias (‘co ni hwn a hwn) o’r nofelau gorau o’r math? A be sydd ar dop y rhestr ond Y Dydd Olaf (1976) gan […]

  3. Helo Marconatrix!
    Mae’r rhai diweddaraf – megis Y Dwr, Seren Wen ar Gefndir Gwyn – yn dal i fod ar gael mewn siopiau llyfrau. Mae Y Dydd Olaf gan Owain Owain yn nofel anodd iawn i gael gafael ynddi, fodd bynnag, bydd nifer o’r llyfrau eraill ar gael ar Amazon neu mewn siopau llyfrau ail-law. 🙂

  4. […] Miriam Elin Jones enwi’r llyfr fel y gyfrol ffug-wydd gorau yn yr iaith Gymraeg, draw ar flog Gwyddonias. A gewch chi ddarllen fy sylwadau pitw innau fan […]

  5. […] y gyfrol – yn fras ac yn frysiog! – eisoes gennym ar wefan Gwyddonias, ac mae Elidir ar wefan Fideo Wyth wedi rhoi mwy o sylw iddi. Dal heb gael eich argyhoeddi? Mae […]

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

%d bloggers like this: